Tag Archives: bisgedi

Bisgedi cyntaf

28 Tach


Mae amser wir wedi hedfan yn ddiweddar, ac mae’r mab nawr wedi dechrau bwyta. Fel rhywun sydd wrth eu bodd gyda bwyd a choginio, mae hyn yn gyfnod cyffroes iawn i mi, ond hefyd yn cynnig her newydd i mi – pobi a choginio gyda llai o halen a siwgr na’r arfer. Ond mae’n un dwi’n ei fwynhau hyd yn hyn, yn sicr mae’n helpu bod y bychan yn mwynhau ei fwyd cymaint â’i fam.

Stwnsh neu bethau meddal mae’n ei fwyta yn bennaf ar hyn o bryd, ond gyda dannedd ar y ffordd, mae o’n mwynhau cnoi ar bethau caled hefyd. Felly dyma’r cyfle cyntaf i bobi bisgedi ar ei gyfer, bisgedi sydd yn ddigon caled fel nad oes modd iddo dorri darn mawr i ffwrdd, ond yn meddalu yn araf wrth iddo gnoi a sugno arnyn nhw. A bisgedi sydd wrth gwrs heb unrhyw siwgr ynddyn nhw, ond yn hytrach wedi’i melysu gan ychydig o biwre afal.

Nawr dwi’n ymwybodol iawn bod amser yn brin os oes gennych fabi bach, felly mae’r rhain yn syml ac yn gyflym iawn i’w gwneud, yn enwedig os oes gennych chi lond rhewgell o biwre afal yn barod, fel y fi.

Er bod y rhain yn berffaith ar gyfer babis o 6 mis ymlaen, mae’n dal yn bwysig i gadw golwg ar eich plentyn wrth iddyn nhw eu bwyta, rhag ofn iddyn nhw dagu.

Cynhwysion

300g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr codi

1 wy

100g o biwre afal trwchus (Tua 2/3 afal) 

 

Dull

Dechreuwch drwy wneud y piwre afal. Peidiwch a phlicio’r afalau (mae yna lot o faeth yn y croen), ond torrwch y canol allan, a thorri’r afalau yn ddarnau. Dwi’n hoffi stemio fy afalau, ond gallech eu coginio mewn sospan hefyd. Fe ddylai gymeryd 15-20 munud hyd nes eu bod yn feddal. Yna defnyddiwch brosesydd bwyd i’w malu yn llyfn.
Gadewch i’r piwre oeri rhywfaint. 

Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim. Cymysgwch yr holl gynhwysion hyd nes bod popeth yn dod at ei gilydd i ffurfio toes llyfn. 

Torrwch belen o’r toes a’i rolio yn sosej rhyw 2 fodfedd o hyd, Gosodwch ar eich tun pobi a’i wasgu yn fflat. Mae angen i’r bisgedi fod yn ddigon mawr i fabi eu dal yn eu dwrn i fwydo eu hunain, ond ddim yn rhy fawr i’w roi yn eu ceg. Ailadroddwch gyda gweddill y bisgedi gan sicrhau bod digon o le rhwng pob un. 

Coginiwch am 25-30 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac yn galed. 

Gadewch i’r bisgedi oeri ar rwyll fetel. 
Fe fydd rhain yn cadw yn dda o’u rhoi mewn tun a chaead iddi. 

Bisgedi Santes Dwynwen

25 Ion

20130125-175951.jpg

 

Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!

Da ni mor lwcus fel cenedl i gael ein nawddsant cariadon ein hunain. Da ni’n cael dathlu cyn y Saeson a da ni ddim yn gorfod talu trwy’n trwynau i brynu blodau neu fynd am swper. Mae o’n teimlo’n llawer mwy diffuant ac yn llai masnachol.

Ac mae’n braf gweld bod y dydd wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n cofio gweithio ym Mwrdd yr Iaith bron i ddeng mlynedd yn ôl, pan roedd rhaid i’r Bwrdd argraffu ei gariadau Santes Dwynwen ei hun, er mwyn hyrwyddo’r dydd. Doedd hi ddim yn hawdd cael gafael ar gardiau santes Dwynwen ar y pryd, ond erbyn hyn, mae yna ddewis eang ar gael, ac mae busnesau yn dechrau gweld gwerth dathlu diwrnod santes Dwynwen, boed nhw yn siopau neu yn fwytai. Er diolch byth tydi oddim yn uffern fasnachol fel Valentines Day.

Wrth gwrs dwi’n byw yn Llundain felly dyw Santes Dwynwen ddim mor amlwg yma, ond mae yna un lle sydd yn cynnig profiad arbennig ar ddiwrnod Santes Dwynwen, sef bwyty Bryn Williams, Odette’s yn Primrose Hill. Felly dyna yn union ble fydda i a Johny fy nghariad yn mynd heno. Maen nhw’n gwneud bwydlen rannu arbennig, ac os ydio mor dda â’r un gawsom ni ddwy flynedd yn ôl yna fe fyddai’n hogan hapus iawn heno. Dwi’n addo rhannu’r manylion efo chi ar ôl i ni fod.

Ond cyn hynny dwi wedi pobi bisgedi bach neis ar gyfer y diwrnod arbennig hwn.

Bisgedi fanila reit syml ydi’r rhain ond maen nhw’n blasu’n hyfryd, ac wrth gwrs gallwch eu haddurno nhw fel da chi eisiau, ond gan ei bod hi’n ddiwrnod y cariadon roedd yn rhaid i mi wneud calonnau pinc!

Cynhwysion

Bisgedi

220g blawd plaen

pinsied o halen

125g menyn heb halen oer

100g siwgr caster

1 wy

1 llwy de rhin fanila

 

Eisin

1 gwyn wy

½ llwy de o sudd lemon

200g o siwgr eisin

 

Dull

1. Cymysgwch y blawd, siwgr a halen mewn powlen.

2. Rhwbiwch y menyn oer i mewn i’r cynhwysion sych nes ei fod yn edrych fel briwsion. Neu gymysgwch gan ddefnyddio prosesydd bwyd, neu beiriant cymysgu.

3. Ychwanegwch yr wy a’r rhin fanila a chymysgu nes bod y toes yn dechrau dod at ei gilydd.

4. Yna, gyda’ch dwylo, tylinwch y toes am ryw funud nes ei fod yn glynu at ei gilydd mewn pelen ac yn llyfn.

5. Lapiwch y toes mewn cling film, a’i roi yn yr oergell am 30 munud.

6. Cynheswch y popty i 180°C / Ffan 160°C/ Nwy 4 a leiniwch ddau dun pobi hirsgwar gyda phapur gwrthsaim.

7. Ar ôl i’r toes oeri’n ddigonol ysgeintiwch ychydig o flawd ar y bwrdd a rholiwch y toes allan nes ei fod yn 5mm o drwch

20130125-180042.jpg

8. Torrwch eich bisgedi allan gan defnyddio torrwyr siap calon, neu unrhyw siap arall sy’n mynd a’ch bryd, a’u gosod ar eich tun pobi.

20130125-180031.jpg

9. Coginiwch yn y popty am 10-12 munud nes bod yr ochrau yn dechtrau lliwio.

10. Trosglwyddwch i rwyll fetel i oeri.

11. Er mwyn gwneud yr eisin, chwisgiwch y gwynwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn ewynnog, ychwanegwch y sudd lemon a chymysgu.

12. Yna ychwanegwch y siwgr eisin yn raddol, a chwisgio nes ei fod yn weddol drwchus. Mae angen i’r eisin fod yn ddigon trwchus i beidio â rhedeg, ond yn ddigon tenau i’w beipio.

20130125-180018.jpg

13. Os ydych eisiau lliwio eich eisin, ychwanegwch ychidg bach iawn o bast lliw (dwi’n defnyddio ffon gotel i gael jysd digon)

14. Rhowch yr eisin mewn bag eisio bach a thorrwch dwll yn y pen (os oes angen) a pheipiwch addurn ar eich bisgedi.

15. Gadewch i’r eisin galedu cyn bwyta.

Rhannwch gyda eich cariad neu sglaffiwch y cyfan eich hun. Mwynhewch!

Bisgedi Sinsir

22 Tach

Dwi ddim yn adnabod neb llawer sy’n prynnu ginger nuts y dyddiau yma, efallai gan bod nhw’n cystadlu efo llond shilffoedd o fisged llawer mwy ffansi. Ond pan ddes i a llond bocs o rai cartref i’r gwaith y diwrnod o’r blaen fe gafon nhw eu sglaffio yn syth. Mae’n nhw’n ofandwy o hawdd i’w gwneud, ac er nad ydyn nhw’r peth delia y gallwch chi eu coginio, mae nhw’n blasu yn hyfryd. A gan eu bod nhw’n reit grynshlyd, mae’n nhw’n berffaith ar gyfer dyncio yn eich te.

Dwi wedi gwneud rhain ychydig bach yn fwy ffansi yn y gorffenol hefyd trwy ychwanegu darnau o sinsir, y math da chi’n ei gael mewn jariau o syrup, hyfryd!

Cynhwysion

110g blawd codi

1 llwy de o bicarbonate of soda

1½ llwy de o sinsir

50g menyn (tymheredd stafell)

20g siwgr granulated

20g siwgr bronw meddal

2 lwy fwrdd o syrup

Dull

1. Hidlwch y blawd, bicarbonate of soda a sinir mewn i fowlen.

2. Rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd gyda blaenau eich bysedd, nes ei fod yn edrych fel briwsion bara.

3. Ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu.

4. Yna ychwanegwch y syrup a’i gymysgu gyda llwy bren cyn defnyddio eich dwylo i’w wasgu at ei gilydd nes ei fod yn edrych fel toes.

5. Rholiwch y toes mewn i beli tua maint cneuen yn ei gragen. Dylech bod chi’n gallu gwneud 16.

6. Gosodwch y peli ar hambwrdd pobi wedi’i leinio gyda papur gwrthsaim, gan wneud yn siwr bod gennych chi ddigon o le rhnwg pob un gan y bydden nhw’n gwasgaru rhywafaint. Yna gwasgwch pob un lawr ychydig gyda cefn fforc.

7. Pobwch yn y popty at 180C/160C fan am 15-20 munud, nes eu bod nhw’n edrych yn euraidd rownd yr ochrau.

8. Gadewch i oeri ar yr hambwrdd pobi am ychydig funudau, cyn trwosglwyddo i rac weier i oeri yn llwyr.

20111119-170045.jpg

20111119-170230.jpg

20111119-170356.jpg

20111119-170518.jpg

Custard Creams Cartref

9 Gor

Gymaint a dwi’n mwynhau bisgedi crand fel rhyw viennese whirl neu triple chocolate cookie, weithiau does ‘na ddim byd gwell na phaced o fisgedi rhad efo paned. Bourbons, garibaldi, fig rolls neu custard creams dwi’n licio nhw’i gyd (wel heblaw am y pink wafers afiach yna!).

Mae’n siwr mae’r rheswm dwi’n eu licio nhw cymaint yw eu bod nhw’n fy atgoffa i o fy mhlentyndod.  Dyma yr oeddem ni’n eu cael yn nhŷ Nain ar ôl ysgol bob dydd a dwi’n cofio cwffio am y bisgedi gorau yn y bocsys mawr yna o fisgedi yr oeddem ni’n eu cael bob Nadolig.

Dwi’n nabod lot o bobl sydd ddim yn licio fig roll, neu’n casau garibaldi ond mae pawb yn licio custard creams (croeso i chi gywiro fi ar hyn!). felly pan weles i rysait ar gyfer gwneud custard creams adref ar flog Ed Kimber (y boi nath ennill the Great British Bake Off) odd rhaid i fi drio gwneud nhw fy hun.

Doedden nhw byth yn mynd i edrych yn union fel custard creams o’r siop, na blasu yn union yr un peth (duw a ŵyr beth sy’n mynd fewn i fisgedi siop), ond doedden nhw ddim yn rhy annhebyg. A beth yw’r ots pan maen nhw’n blasu mor hyfryd.

Felly dyma i chi’r rysait.

Cynhwysion

Bisged

225g blawd plaen

50g powdr cwstard

30g siwgr eisin

175g menyn heb halen, oer.

½ tsp o vanilla extract

Llenwad 

50g menyn heb halen

200g siwgr eisin

2 tbsp powdr cwstard

Dull

1. Rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd, siwgr eisin, powdr cwstard a vanilla extract. (neu rhowch bopeth mewn food processor a’i gymysgu nes ei fod yn ffurfio pêl).

2. Gwasgwch bopeth at ei gilydd a’i lapio mewn cling film a rhowch o yn yr oergell am o leiaf 30 munud.

3. Ar ôl 30 munud, roliwch y toes allan i tua 3-4mm, gan sicrhau bod gennych ddigon o flawd ar eich bwrdd. (Roeddwn i’n ffeindio bod o’n sticio ychydig felly byddwch yn ofalus.)

4. Torrwch gylchoedd bach allan a’u pricio nhw gyda fforc. Yna gosodwch nhw ar baking sheet wedi’i leinio gyda phapur greasproof a’u gadael i oeri am tua 15 munud.

5. Tra eu bod nhw’n oeri cynheswch y popty i  180C/160C Fan.

6. Pobwch y bisgedi am 10 munud, neu nes eu bod nhw’n dechrau cael rhywfaint o liw o gwmpas yr ochrau. Gadewch nhw  i oeri ar rack.

7. Ar gyfer y llenwad curwch y menyn gyda chwisg electrig am ryw 5 munud, gan ychwanegu’r powdr cwstard ar siwgr eisin yn raddol (mae’r powdr yn mynd i bob man fel arall!).

8. Rhowch yr eisin mewn bag peipio a gwasgu cylch bach ar hanner y bisgedi, cyn rhoi un arall ar eu pen.