Tag Archives: cwstard

Dyw hi ddim yn hawdd pobi gyda babi!

29 Gor

IMG_8733

Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi flogio, ond mae gen i esgus da – dwi di cael babi! Roeddwn i’n dal i weithio pan ddaeth Gruff bach, bron i fis yn gynnar, gan roi dipyn o sioc i fi a’r gŵr. Yn amlwg doedd o methu aros i ddod fewn i’r byd yma. Ers hynny mae bywyd wedi newid cryn dipyn, a’r amser a hyd yn oed yr egni i bobi wedi bod yn brin iawn.

Ond wedi dweud hynny, dyw Gruff ddim wedi fy nghadw i allan o’r gegin yn llwyr. Mae o’n gallu bod yn hogyn da iawn ar adegau, gan gysgu’n ddigon hir yng nghanol y dydd i fi gael mentro i’r gegin i wneud rhywbeth. Ac mae powlen gymysgu a chlorian gegin yn ddefnyddiol iawn os ydych eisiau pwyso babi bach!

IMG_8767

IMG_8768

A’r peth cyntaf wnes i oedd y cacennau bach riwbob a chwstard yma ar gyfer fy nghlwb pobi. Haf oedd y thema, a gyda llond bag o riwbob yn yr oergell gan fy rhieni yng nghyfraith, roedd yn rhaid i mi eu defnyddio. A’r peth amlwg i’w gyfuno gyda riwbob yw cwstard, felly mae’r cacennau yma wedi’i gwneud gyda sbwng fanila, gyda riwbob wedi’i stiwio yn y canol, ac eisin menyn wedi’i wneud gyda phowdr cwstard a’i liwio yn binc a melyn fel y fferins.

IMG_8850

Fel y gwelwch chi roedd y gacen yma ychydig yn fwy uchelgeisiol, ac yn dipyn o her o ystyried yr amser oedd ei angen i’w gwneud. Doedd y tywydd ddim yn help chwaith, roedd hi’n chwilboeth ar y pryd, a dyw gweithio gydag eisin a siocled byth yn hawdd mewn tywydd poeth. Ond roeddwn i’n awyddus i’w wneud gan fod ffrind, sydd yn yr ysbyty a’r hyn o bryd, wedi gofyn am gacen pen-blwydd arbennig i’w hogyn bach oedd yn flwydd oed.

Mae’r gacen wedi’i wneud o bedwar haen o sbwng siocled, ac fe wnes i’r rheiny fin nos rhyw wythnos ynghynt ac yna eu rhewi. Yna’r diwrnod cyn y parti, fe wnes i eu dadmer, a’u llenwi a’u gorchuddio gydag eisin menyn siocled, a gwneud yr anifeiliaid bach allan o eisin ffondant. Yn lwcus i fi, fe gafodd Gruff nap digon hir i mi gael gorffen y gwaith!

Sgwariau crymbl riwbob a chwstard

28 Mai

cacen crymblFel yr addewais dyma fy ail rysáit yn defnyddio riwbob a chwstard. A dwi wrth fy modd efo rhain.

Mae yna reswm pam ei fod yn gyfuniad mor glasurol – mae’r riwbob sur yn gyferbyniad perffaith i’r cwstard fanila melys a chyfoethog. Felly gyda’r rysáit yma fe benderfynais i wneud cacen gyda sbwng fanila ar y gwaelod, haen o gwstard am ei ben, wedyn riwbob a chrymbl crensio ar y top i orffen.

Dwi wrth fy modd yn gwneud fy nghwstard fy hun, ond tydi o ddim yn angenrheidiol fan hyn, mae cwstard siop, neu hyd yn oed un wedi’i wneud gyda phowdr yn ddigon da – er wrth gwrs mae croeso i chi wneud eich cwstard eich hun. Ond un peth sy’n bwysig yw bod y cwstard yn drwchus, neu fe fydd o’n amhosib cadw’r haenau gwahanol ar wahân.

cacen crymbl2

cacen crymbl3

 

Cynhwysion

200g o riwbob

2 lwy fwrdd o siwgr mân

 

Ar gyfer y crymbl

80g o flawd codi

40g o fenyn heb halen oer

40g o siwgr gronynnog

40g o geirch

20g o almonau tafellog

 

Ar gyfer y sbwng

150g o fenyn heb halen

150g o siwgr mân

2 wy

150g o flawd codi

1 llwy fwrdd o bowdr cwstard

1 llwy de o fanila

 

300g o gwstard siop (gweddol drwchus)

 

Dull

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a dechreuwch trwy goginio’r riwbob. Torrwch y riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u gosod mewn dysgl neu dun sy’n addas i’r popty. Ysgeintiwch y siwgr am eu pen a’u rhoi yn y popty i goginio am 15 munud hyd nes eu bod yn feddal ond yn parhau i ddal eu siâp. Rhowch i un ochr i oeri.

Trowch y popty lawr i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch a leiniwch dun sgwâr, un 21cm x 21cm ddefnyddiais i.

Gwnewch y crymbl i ddechrau – rhowch y blawd mewn powlen, torrwch y menyn yn ddarnau bach a rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion (neu defnyddiwch brosesydd bwyd os oes gennych un).

Ychwanegwch y siwgr, y ceirch a’r almonau tafellog a’i gymysgu yn dda a rhowch i un ochr.

Nesaf gwnewch y sbwng drwy guro’r menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am 5 munud.

Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn dda gyda’r chwisg drydan rhwng pob un.

Ychwanegwch y rhin fanila a’i gymysgu yn dda cyn ychwanegu’r blawd a’r powdr cwstard a’i gymysgu yn ofalus gyda llwy.

Rhowch y gymysgedd yng ngwaelod eich tun a gorchuddiwch gyda’r cwstard, yna rhowch y riwbob wedi’i oeri am ei ben, gan orffen gyda haen o’r crymbl.

Coginiwch yn y popty am awr, ne bod y crymbl yn euraidd.

Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun, cyn ei dorri yn sgwariau.

 

Cacen riwbob a chwstard

11 Mai

 

DS2_9426

Hwre! Mae’n dymor riwbob a dwi’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r ffrwyth /llysieuyn hyfryd yma.

Gyda bwyd yn cael ei hedfan ar draws y byd, does yna ddim llawer o lysiau neu ffrwythau sy’n wirioneddol dymhorol erbyn hyn. Os ydych wir eisiau, maen bosib cael mefus yn ganol gaeaf yn yr archfarchnad, er eu bod nhw fel arfer yn blasu o ddim. Ond am hanner y flwyddyn mae hi’n amhosib cael gafael ar riwbob, felly’r munud mae o’n ymddangos yn yr ardd neu’r siop dwi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n cael fy nigon. Peidiwch â dweud wrth fy rhieni yng nghyfraith ond roeddwn i yn eu gardd yr wythnos diwethaf, tra’r oedden nhw i ffwrdd ar eu gwyliau, yn dwyn eu riwbob.

DS2_9302

Wrth gwrs dyw o ddim yn ddigon i mi wneud crymbl neu darten riwbob, dwi wastad yn chwilio am rywbeth newydd i’w wneud. Mae yna rysáit ar gyfer cacen gaws riwbob a sinsir yn Paned a Chacen, dwi hefyd wedi gwneud jam riwbob a sinsir, hufen ia crymbl riwbob a fodka riwbob. Ond eleni roeddwn i’n awyddus i wneud cacen oedd yn cyfuno’r ddau flas clasurol yna – riwbob a chwstard.

Ar ôl tipyn o arbrofi, a dwy gacen oedd yn llanast llwyr, fe lwyddais i greu dwy rysáit yr oeddwn i’n hapus iawn â nhw. Y gacen sbwng riwbob a chwstard yma a sgwariau crymbl riwbob a chwstard (rysáit i ddilyn).

Mae’r gacen yma gam i fyny o sbwng Fictoria arferol, dwi wedi ychwanegu almonau mâl at y sbwng ac wedyn yn y canol mae yna eisin menyn cwstard a riwbob wedi’i bobi. cacen berffaith ar gyfer te prynhawn ar ddiwrnod braf.

DS2_9398

 

DS2_9410

 

DS2_9420

 

Cynhwysion

200g o riwbob

2 lwy fwrdd o siwgr fanila

 

Ar gyfer y sbwng

200g o fenyn heb halen

200g o siwgr mân

3 wy

160g o flawd codi

60g o almonau mâl

 

Ar gyfer yr eisin

120g o fenyn heb halen

120g o siwgr eisin

1 llwy fwrdd  bowdr cwstard

200g o gwstard (unai un siop neis neu un cartref)

2 llwy de o fanila

 

 

Dull

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a dechreuwch trwy goginio’r riwbob. Torrwch y riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u gosod mewn dysgl neu dun sy’n addas i’r popty. Ysgeintiwch y siwgr am eu pen a’u rhoi yn y popty i goginio am 15 munud hyd nes eu bod yn feddal ond yn parhau i ddal eu siâp. Rhowch i un ochr i oeri.

Trowch y popty lawr i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch a leiniwch waelod dau dun crwn 20cm.

Curwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am 5 munud.

Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn dda gyda’r chwisg drydan rhwng pob un.

Ychwanegwch y blawd a’r almonau mâl a’i gymysgu yn ofalus gyda llwy.

Rhannwch y gymysgedd rhwng y ddau dun a’u coginio am 20 munud, nes eu bod yn euraidd a’r sbwng yn bownsio yn ôl wrth ei gyffwrdd. Gadewch i oeri yn y tun am 5 munud cyn eu tynnu allan a’u rhoi ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.

Tra bod y cacennau yn oeri gwnewch yr eisin drwy guro’r menyn

Curwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y siwgr eisin a’r powdr cwstard yn raddol gan barhau i gymysgu am 2-3 munud arall. Yna ychwanegwch y cwstard a’r fanila ‘i gymysgu yn dda am 2-3 munud arall nes ei fod yn drwchus.

Pan fydd eich cacennau wedi oeri yn llwyr, gosodwch un ar blât gweini, a thaenwch neu beipiwch (mae peipio yn gwneud iddo edrych yn lot fwy proffesiynol a deniadol, ond does dim rhaid) yr eisin am ei ben. Rhowch y riwbob am ben yr eisin wedyn, cyn gosod yr ail gacen am ei ben. Ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin.