Tag Archives: penblwydd

Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

2 Hyd


Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond dyw o ddim yn gacen ar gyfer dathliad, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth llawer mwy trawiadol. Felly gyda’r gacen lemon yn ysbrydoliaeth, fe es ati i wneud cacen lemon a mafon, gyda’r dyw haen o gacen lemon a haen ar all yn y canol wedi’i wneud gyda’r mafon ffres. Rhwng pob haen wedyn roedd yna eisin menyn lemon, ceuled lemon a mwy o fafon ffres. Addurnais y cyfan gydag eisin menyn lemon wedi’i liwio yn felyn a phinc, er mwyn rhoi rhyw syniad o’r hyn oedd y tu fewn.

IMG_1334
Roedd yna glod mawr i’r gacen ymysg ei deulu, ac roedden nhw’n amlwg wedi’i fwynhau achos dim ond un darn gefais i cyn yr oedd y gacen wedi diflannu yn llwyr.
Yn sicr dyw hon ddim yn gacen ar gyfer pob dydd ond mae’n berffaith ar gyfer achlysur arbennig pan mae yna ddigon o bobl i’w bwydo.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Cynhwysion 

300g o fenyn heb halen

350g o siwgr mân

5 wy

350g o flawd plaen

3 llwy de o bowdr codi

Croen un lemon wedi’i gratio

100g o fafon

Ar gyfer yr eisin

375g o fenyn heb halen

700g o siwgr eisin

Sudd un lemon

Croen hanner lemon wedi’i gratio

Past lliw melyn a pinc

I orffen y gacen

Sudd un lemon

100g o Siwgr eisin

100g o fafon

Ceuled lemon

Dull

  • Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch dri thun crwn 20cm a leinio’r gwaelod gyda phapur gwrthsaim.
  • Rhowch y menyn mewn powlen a’i guro am funud gyda chwisg drydan nes ei fod yn llyfn, yna ychwanegwch y siwgr yn raddol a’i guro am 5 munud arall nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.
  • Nawr ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu’n drwyadl gyda’r chwisg drydan rhwng pob un. Os ydych yn poeni ei fod yn mynd i geulo ychwanegwch lwy fwrdd o flawd rhwng pob wy.
  • Hidlwch y blawd a’r powdr codi i mewn a’i gymysgu gyda llwy neu spatula.
  • Rhannwch y gymysgedd yn hafal rhwng tair powlen, gan ychwanegu’r croen lemon at ddau a’r mafon wedi’i stwnsio at y llall a chymysgwch yn ofalus.
  • Rhowch eich cymysgedd yn y tri thun a’u coginio am 25-30 munud, hyd nes bod y sbwng yn euraidd a bod sgiwer sy’n cael ei osod ynghanol y gacen yn dod allan yn lân. Gadewch i oeri yn y tuniau am rai munudau cyn eu trosglwyddo i rwyll fetel i oeri yn llwyr.
  • Yn y cyfamser gwnewch surop drwy gynhesu sudd un lemon gyda’r siwgr eisin.
  • Os nad yw eich cacennau yn wastad, torrwch y topiau i ffwrdd efo cyllell fara yna brwsiwch y ddwy gacen lemon gyda’r surop.
  • Er mwyn gwneud yr eisin, cymysgwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch sudd a chroen y lemon a’r siwgr eisin yn raddol. Cymysgwch yn dda am 4-5 munud.
  • Gosodwch un o’r cacennau lemon ar eich plât gweini, a thaenwch haen o eisin am ei ben yn ogystal â rhywfaint o geuled lemon a hanner y mafon (wedi’i stwnsio) sydd yn weddill. Gosodwch y gacen mafon am ei ben, a gwnewch yr un peth eto. Rhowch y drydedd gacen (yr un lemon) ar y top a gorchuddiwch y gacen gyfan gyda haen denau o’r eisin. Fe fydd yr haen yma yn dal y briwsion i gyd ac yn gweithio fel sylfaen i’r haen olaf o eisin, felly does dim rhaid iddo fod yn rhy daclus nac yn rhy drwchus.
  • Rhowch y gacen yn yr oergell am 30 munud fel bod yr eisin yn caledu. Ar ôl i’r haen gyntaf o eisin setio, rhannwch yr eisin sy’n weddill rhwng pedwar powlen, gadewch un yn wyn, lliwiwch un yn binc a’r ddau arall yn felyn, ond gydag un yn dywyllach na’r llall.
  • Gorchuddiwch dop y gacen gyda’r eisin gwyn, gan ei wneud mor llyfn â phosib gyda chyllell balet. Yna yn fras Rhowch haen o eisin pinc p gwmpas gwaelod y gacen, yn a’r melyn golau, gan orffen gyda’r melyn tywyll. Ewch dros y cyfan gyda chyllell balet i’w wneud yn llyfn, gan sicrhau bod y lliwiau yn llifo i mewn i’w gilydd, a’r melyn yn lledaenu i’r top hefyd.

Dyw hi ddim yn hawdd pobi gyda babi!

29 Gor

IMG_8733

Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi flogio, ond mae gen i esgus da – dwi di cael babi! Roeddwn i’n dal i weithio pan ddaeth Gruff bach, bron i fis yn gynnar, gan roi dipyn o sioc i fi a’r gŵr. Yn amlwg doedd o methu aros i ddod fewn i’r byd yma. Ers hynny mae bywyd wedi newid cryn dipyn, a’r amser a hyd yn oed yr egni i bobi wedi bod yn brin iawn.

Ond wedi dweud hynny, dyw Gruff ddim wedi fy nghadw i allan o’r gegin yn llwyr. Mae o’n gallu bod yn hogyn da iawn ar adegau, gan gysgu’n ddigon hir yng nghanol y dydd i fi gael mentro i’r gegin i wneud rhywbeth. Ac mae powlen gymysgu a chlorian gegin yn ddefnyddiol iawn os ydych eisiau pwyso babi bach!

IMG_8767

IMG_8768

A’r peth cyntaf wnes i oedd y cacennau bach riwbob a chwstard yma ar gyfer fy nghlwb pobi. Haf oedd y thema, a gyda llond bag o riwbob yn yr oergell gan fy rhieni yng nghyfraith, roedd yn rhaid i mi eu defnyddio. A’r peth amlwg i’w gyfuno gyda riwbob yw cwstard, felly mae’r cacennau yma wedi’i gwneud gyda sbwng fanila, gyda riwbob wedi’i stiwio yn y canol, ac eisin menyn wedi’i wneud gyda phowdr cwstard a’i liwio yn binc a melyn fel y fferins.

IMG_8850

Fel y gwelwch chi roedd y gacen yma ychydig yn fwy uchelgeisiol, ac yn dipyn o her o ystyried yr amser oedd ei angen i’w gwneud. Doedd y tywydd ddim yn help chwaith, roedd hi’n chwilboeth ar y pryd, a dyw gweithio gydag eisin a siocled byth yn hawdd mewn tywydd poeth. Ond roeddwn i’n awyddus i’w wneud gan fod ffrind, sydd yn yr ysbyty a’r hyn o bryd, wedi gofyn am gacen pen-blwydd arbennig i’w hogyn bach oedd yn flwydd oed.

Mae’r gacen wedi’i wneud o bedwar haen o sbwng siocled, ac fe wnes i’r rheiny fin nos rhyw wythnos ynghynt ac yna eu rhewi. Yna’r diwrnod cyn y parti, fe wnes i eu dadmer, a’u llenwi a’u gorchuddio gydag eisin menyn siocled, a gwneud yr anifeiliaid bach allan o eisin ffondant. Yn lwcus i fi, fe gafodd Gruff nap digon hir i mi gael gorffen y gwaith!

Cacen Penblwydd Pinc

11 Tach

20111024-153117.jpg

Fe ofynnodd cydweithiwr i mi wneud cacen penblwydd i’w merch 6 oed. Mae hi’n licio unrhywbeth pinc a merchetaidd, ac mae hi’n caru sgidiau sodlau uchel, felly wrth gwrs fe ddywedais i ie. Merch tebyg iawn i fi!

Heblaw am y brîff yna roedd gena’i rwydd hynt i wneud beth bynnag yr oeddwn i eisiau. Felly fe gefais i dipyn o hwyl!

Fe wnes i gacen madeira (rysait isod), cacen sy’n dal ei siap yn llawer gwell na sbwng cyffredin fel sbwng victoria. Mae’n dda iawn hefyd os ydych chi eisiau torri cacen mewn i siapiau gwahanol.

Ar ôl gadael y gacen i oeri, y peth cyntaf oedd angen ei wneud oedd torri’r top yn fflat, a’i dorri yn hanner.

20111024-155112.jpg

Yna fe lenwais y gacen gydag eisin menyn a gorchuddio’r top a’r ochrau gyda haen denau o’r eisin. Wedyn mae angen rhoi’r gacen yn yr oergell er mwyn gadael i’r eisin setio, cyn ei orchuddio gyda haen arall o’r eisin. Y tro yma yn sicrhau eich bod yn cael yr eisin mor llyfn â phosib. Ac yna nol i’r oergell a fo. Mae hyn yn rhoi’r sylfaen gorau posib i chi ar gyfer gorchuddio’r gacen gydag eisin fondant.

20111024-155128.jpg

Y cam nesaf yw gorchuddio’r holl gacen gyda eisin fondant. Mae’n bosib prynu’r eisin yma wedi ei liwio yn barod, fel y gwnes i y tro hwn, neu ddefnyddio eisin gwyn a’i liwio eich hunain gyda lliw bwyd (y past nid y rhai dyfrllyd da chi’n ei gael mewn archfarchnadoedd).

Ar ôl rolio’r eisin allan, gosodwch yn ofalus dros y gacen, gan ddefnyddio’r pin rolio i’w godi. Wedyn defnyddiwch eich dwylo, neu declyn esmwytho i’w gael yn hollol llyfn. Dyw hyn ddim yn hawdd, ond gydag ychydig o ymarfer fe fyddwch chi’n gallu cael eich cacennau i edrych yn broffesiynol. Y tric yw defnyddio’r eisin menyn i sicrhau bod eich cacen mor llyfn â phosib cyn rhoi’r sugarpaste ymlaen.

Wedyn mae’r hwyl o addurno yn dechrau. Fe ddefnyddiais dorrwr bisgedi i wneud y siapiau bag ac esgid, mewn eisin pinc golau, a’u haddurno drwy beipio ychydig o royal icing arnyn nhw. Yna fe addurnais y gwaelod gyda chalonnau, a pheipio’r enw gyda llaw. Er mwyn ychwanegu ychydig o sglein fe frwsiais yr addurniadau gyda ychydig o glitter bwytadwy.

Fe wnes i fwynhau gwneud y gacen yma, roedd o’n lot o hwyl. Ond roeddwn i wrth fy modd o glywed bod Martha wedi dweud mai hon oedd y gacen orau yn y byd! Falch bod y cwsmer yn hapus!

Rysait ar gyfer cacen madeira

Cynhwysion

350g menyn heb halen
350g siwgr caster
350g blawd codi
175g blawd plaen
6 wy mawr

Dull

1. Cynheswch y popty i 160C/140C fan. Irwch dun cacen 8 modfedd a’i leinio gyda phapur greasproof.
2. Cymysgwch y menyn a siwgr nes ei fod yn ysgafn (tua 5 munud gyda chwisg trydan)
3. Curwch yr wyau mewn i’r gymysgedd, un ar y tro, gan roi llwyaid o flawd rhwng bob un er mwyn ei atal rhag ceulo.
4. Hidlwch y ddau flawd i mewn i’r gymysgedd, a’i blygu yn ofalus gyda spatula neu lwy fetel.
5. Rhowch yn y tun, a’i bobi am 1½ i 1¾ awr. Neu nes bod sgiwer sy’n cael ei osod yn y canol yn dod allan yn lan.