Cyw iâr, pwmpen cnau menyn a gnocchi

23 Chw

Da chi’n gwybod bod swper yn llwyddiant pan fo’ch plentyn yn clirio ei blât ac yn rhoi cwtsh enfawr i chi fel diolch.

Dio’n sicr ddim yn digwydd yn aml, ond dyna yn union ddigwyddodd ar ôl i mi goginio’r pryd yma am y tro cyntaf. Ymateb gwych o ystyried mai’r unig beth wnes i oedd taflu llwyth o gynhwysion mewn tun a’u pobi.

Ar ôl diwrnod prysur, y peth olaf dwi eisiau ei wneud yw treulio oriau yn y gegin yn gwneud swper cymhleth ac wedyn gwario lot gormod o amser yn clirio’r llanast. Felly fy mwriad efo’r rysáit yma oedd creu rhywbeth syml a chyflym, oedd hefyd yn defnyddio’r cynhwysion prin oedd gen i yn yr oergell, achos i fod yn onest doedd gen i ddim mynadd mynd i’r siop chwaith!

Felly dyma daflu’r hanner pwmpen cnau menyn (butternut squash) oedd ‘di bod yn llechu yng ngwaleod yr oergell ers duw a ŵyr pryd, mewn i dun pobi efo cwpwl o foron, courgette oedd di gweld dyddiau gwell, ychydig o ewynnau o arlleg a chwe chlun cyw iâr.

Roedd gen i ychydig bach o pesto gwyrdd a phast tomato heulsych (sundried) oedd angen eu denfyddio felly fe gafodd hanner y cyw iâr eu gorchuddio gyda’r pesto a’r hanner arall gyda’r past tomato. Gallwch chi ddefnyddio un neu’r llall.

Yna i goroni popeth fe daflais ychydig o gnocchi i mewn hefyd. Does dim angen eu berwi, dim ond eu taflu i mewn yn syth o’r paced. Yn y diwedd fe fydd gennych chi gyw iâr blasus, llysiau sydd wedi’i coginio yn berffaith a gnocchi cras sydd hefyd wedi amsugno blas y cyw iâr a’r pesto a saws tomato.

Dwi’n ffan mawr o goginio mewn un badell, a gewch chi ddim swper symlach na hwn . Ond eto roedd o’n hynod flasus a llwyddiant ysgubol efo’r teulu cyfan. A dim ond un tun oedd i’w olchi ar y diwedd. Be well?

Cynhwysion

6 clun cyw iâr

1/2 pwmpen cnau menyn

2 foronen

corbwmpen (courgette)

6 ewyn garlleg (dal yn eu croen)

3 llwy de o pesto

3 llwy de o saws tomato heulsych

1 llwy fwrdd o olew olewydd

350g o gnocchi

Dull

Cynheswch y popty i 200C / 180C ffan / mar nwy 6.

Torrwch sleisys yng nghroen y cyw iâr, a’i osod mewn tun pobi.

Torrwch y bwmpen, moron a courgette yn dameidiau a’u gosod o gwmpas y cyw iâr efo’r garlleg.

Taenwch y pesto ar dri o’r darnau cyw iâr a’r saws tomato ar y gweddill.

Tywalltwch yr olew am ben y llysiau a’i roi yn y popty i goginio am 10 munud.

Ychwanegwch y gnocchi gan eu cymysgu yn y sudd a’r olew, cyn ei ddychwelyd i’r popty a choginio am 25/30 munud arall, hyd nes bod y cyw iâr wedi coginio a’r llysiau yn feddal.

Tom Simmons

14 Chw

70l1A0mfTYCur+gAkoCaGA

tatws

Dyw Llundain ddim yn brin o fwytai da, ond mae gen i ffefryn newydd, ac yn digwydd bod, mae o’n cael ei redeg gan Gymry. Bwyty Tom Simmons.

Yn enedigol o Sir Benfro fe agorodd Tom Simmons ei fwyty ei hun, yn 2017. Chwe mlynedd ar ôl iddo serenu ar Masterchef: The Professionals.

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn agor bwyty ynghanol Llundain ond mae Tom Simmons eisoes wedi ennill ei le ymysg yr holl fwytai crand eraill ger Tower Bridge. Mae’r bwyty ei hun wedi ei guddio tu ol i rai o’r adeiladau newydd yn Tower Bridge, ond wir i chi mae’n werth ei ffeindio.

Fe gewch chi groeso cynnes gan Lowri, sy’n rhedeg y bwyty ar y cyd gyda Tom.  Mae mor braf cael siarad Cymraeg ynghanol Llundain, mae’n gwneud y profiad yn un llawer mwy personol. Ond mae Lowri hefyd yn wybodus iawn ynglyn a’r bwyd a’r gwin sydd ar y fwydlen, ac yn barod i sgwrsio ac ateb unrhyw gwestiynau.

IMG_8572

eog wedi’i gochi

IMG_8575

tartare cig eidion

Dwi wedi bwyta yno deirgwaith nawr, ac mae safon y coginio wedi bod yn gyson o uchel. Mae pob pryd wedi bod yn bleser llwyr.  Ar ein hymweliad diwethaf dywedodd fy ngwr mai dyma un o’r prydau gorau iddo gael yn Llundain.

Mae’r bwyd yn glasurol ei naws, ond mae ei Gymreictod i’w weld yn glir yn y cynhwysion mae o’n ei ddefnyddio o’r menyn cennin gywrdd gogoneddus sy’n cael ei weini efo bara sourdough ffres, i’r cig oen cymreig a coctels chwisgi Penderyn.

IMG_8578

hwyaden

IMG_8573

cig oen

Be dwi’n licio am goginio Tom yw ei fod o’n sicrhau mai’r cynhwysion eu hunain sy’n serenu. A pan mae gennych chi gig oen Cymreig o’r safon uchaf, pam fyddech chi eisiau chwarae o gwmpas yn ormodol efo fo? Yn ôl Lowri mae Tom yn cysylltu a’i gigydd yn ôl yng Nghymru ar facetime bob wythnos er mwyn gweld beth sydd ganddo i’w gynnig.

Mae’r eog wedi’i gochi gyda betys, afal a rhuddygl yn ffordd berffaith o ddechrau pryd. cyfuniad hyfryd o flasau, ond sydd yn dal i fod yn ffres ac ysgafn.

Dwi wedi cael yr hwyaden a cig oen fel prif gwrs ac fe fuaswn i’n argymell y ddau. Ond mae’n werth dod am y tatws yn unig. mae yna ddigon o fwyd ar un plât felly does dim rhaid cael tatws ychwanegol ond maen nhw wir yn werth eu trio. Maen nhw’n edrych yn debyg i sglodion mawr, ond mae yna lafur cariad yn mynd fewn i’r rysáit yma. Fel yr esboniodd Lowri i mi, mae haenau o datws tenau yn cael eu coginio n y popty cyn eu torri fewn i sglodion a’u ffrio. Mochaidd ond mor flasus.

Dwi’n licio rhywbeth ysgafn ar ddiwedd pryd mawr, ac mae’r pwdinau dwi wedi’i gael yma wastad yn taro deuddeg. Yn greadigol, a blasus ond heb fod yn rhy felys chwaith. Roedd y darten afal yn benodol yn ogoneddus.

IMG_8577

tarten afal

IMG_8574

panacotta

Ond peidiwch â gadael cyn trio’r coctels, dewis bychan sydd yna ond mae’r coctel Chwisgi, wedi ei wneud efo Penderyn ac oren yn un o fy hoff  ddiodydd erioed. I fod yn onest fyddai’n werth mynd nôl yno dim ond i gael un o’r rheina a powlen o datws!Felly os ydych chi byth yn Llundain, fe fuaswn i’n sicr yn argymell eich bod yn gwneud amser am ginio neu swper yn Tom Simmons.

IMG_8579

Chwisgi

Cacen Blodau’r Ysgaw heb glwten

20 Ion

Mae bywyd wedi bod yn eithaf prysur yn ddiweddar. Rhwng magu plentyn, ysgrifennu llyfr arall (Blasus) a gweithio yn San Steffan yn un o’r cyfnodau mwyaf gwallgof yn ein gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn anodd cadw’r ddysgl yn wastad ar adegau. Ond ar droad blwyddyn newydd dwi wedi gwneud adduned i fi fy hun i ailgydio yn y blog. Mae’n debyg y bydd yna lai o gacennau a mwy o’r prydau da ni’n ei fwyta fel teulu, gan mai dyna dwi’n ei goginio yn bennaf y dyddiau hyn.

Ond dwi’n dal i bobi pan mae’r cyfle yn codi, ac mae hon yn rysáit dwi wedi bod yn bwriadu ei rannu ers peth amser. Fe wnes i greu’r gacen blodau’r ysgaw yma yn arbennig ar gyfer y gyflwynwraig teledu Nia Parry. Bydd rhai ohonoch wedi gweld y gacen, a minnau, ar raglen Adre ar S4C yn ddiweddar.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Daeth y criw i ffilmio yn fy nghartref haf diwethaf, ac yn ogystal â busnesu rownd y tŷ, roedden nhw’n awyddus i fy ffilmio’n coginio. Ond gan nad yw Nia yn gallu bwyta glwten doedd yr un o fy ryseitiau yn mynd i wneud y tro felly roedd rhaid i mi arbrofi a chreu rhywbeth newydd.

Doeddwn i erioed wedi coginio gyda blawd di-glwten o’r blaen, ac fe ddarganfyddais ei fod yn creu ansawdd ychydig yn wahanol i flawd cyffredin, ond mae ychwanegu almonau mâl yn creu ansawdd hyfryd. Roeddwn i’n awyddus i arbrofi gyda blas newydd hefyd a hithau yn ganol haf roeddwn i wedi bod yn yfed cryn dipyn o gordial blodau’r ysgaw efo sleisen o leim, perffaith mewn diod, ac mae’n gwneud cacen reit flasus hefyd.

Roedd hon yn sicr yn plesio Nia a’r criw, ac fe gafodd Gruff hwyl yn ei goginio,  felly gobeithio y byddwch chithau yn ei fwynhau hefyd.

Cynhwysion

200g o fenyn heb halen
200g o siwgr mân
4 wy
100g o flawd codi di-glwten
100g o almonau mâl
2 llwy de o bowdr codi
Croen 1 leim wedi’i gratio
4 llwy fwrdd o gordial blodau’r ysgaw

Ar gyfer yr eisin

200g o siwgr eisin
3 llwy fwrdd o gordial blodau’r ysgaw

 

Dull

Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan ac irwch eich tun bundt yn dda gydag olew.
Rhowch y menyn meddal i mewn i’r cymysgwr ai gymysgu am ychydig funudau.

Ychwanegwch y siwgr a chymysgwch am 5 munud nes bod y lliw yn mynd yn oleuach a’i fod yn edrych yn ysgafn.

Ychwanegwch eich wyau un ar y tro, gan gymysgu yn drylwyr rhwng pob un.
Rhowch y blawd , y powdr codi a’r almonau mâl i mewn i’r gymysgedd a chymysgwch yn araf.

Gratiwch groen un leim i mewn i’r gymysgedd a thywalltwch y cordial blodau’r ysgaw i mewn, cyn ei gymysgu yn ofalus gyda spatula neu lwy.

Rhowch y cymysgedd yn y tun a choginiwch am 30 munud, hyd nes ei fod yn edrych yn euraidd

Gadewch i’r gacen oeri yn y tun am 15 munud cyn ei droi allan ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.

Er mwyn gwneud yr eisin cymysgwch y siwgr eisin gyda’r cordial cyn ei dywallt am ben y gacen.

Crempogau tatws melys

9 Chw

Dros y blynyddoedd rwyf wedi postio nifer o ryseitiau crempog gwahanol ar y blog, o grempog gyffredin, i ymerawdwr y crempogau- y kaiserschmarrn, a hyd yn oed rhai fegan. Ac ar ddydd Mawrth Ynyd mae gen i un arall i chi – crempogau tatws melys. Nawr peidiwch â throi eich trwynau yn syth, mae’r rhain yn llawer mwy blasus nag y maen nhw’n swnio.

Fe wnes i’r rhain yn gyntaf ar gyfer fy mab, gan ei fod o wrth ei fodd gyda thatws melys, ac maen nhw’n gwneud brecwast neu ginio perffaith ar gyfer plant sy’n dechrau bwyta gyda’u dwylo. Ond wrth gwrs roedd rhaid i mi eu trio hefyd, ac fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roeddwn nhw’n nhw ysgafn a blasus – yn enwedig gydag ychydig o ffrwythau ffres a surop masarn. Ac maen nhw’n dda i chi hefyd, gan fod tatws melys yn llawn maeth a fitaminau.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Rydw i fel arfer yn coginio mwy na digon o datws melys pan fyddai’n bwydo’r mab, wedyn fe fydd hi’n bosib gwneud y rhain y diwrnod canlynol heb unrhyw drafferth.

Cynhwysion

100g o datws melys wedi’i goginio (tua 1 taten)

100g o flawd plaen

1/2 llwy de o bowdr codi

1/2 llwy de o soda pobi

1/2 llwy de o sinamon mâl

1 wy

100ml o laeth

 

Gwneud 12 crempog fach

 

Dull

Cynheswch eich popty i 220°C / 200°C ffan / marc nwy 8 a rhostiwch eich tatws melys am awr hyd nes eu bod yn feddal.

Gadewch i oeri, cyn tynnu’r croen a stwnsio’r cnawd.

Rhowch gnawd y tatws mewn prosesydd bwyd, neu ‘blender’ gyda’r holl gynhwysion eraill a’u prosesu nes ei fod yn llyfn.

Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrio dros dymheredd cymedrol a rhowch lond llwy bwdin o’r gymysgedd yn y badell ar gyfer pob crempog. Coginiwch am ryw ddau funud ar bob ochr, hyd nes eu bod yn euraidd.

Ailadroddwch gyda gweddill y gymysgedd.

Bwytewch yn syth, tra’u bod nhw yn gynnes. Ond os ydych am gadw rhai i’w fwydo i’ch babi yn oer, fe fydden nhw’n cadw am gwpwl o ddiwrnodau yn yr oergell. Neu fe allwch eu rhewi hefyd, gan eu dadmer ar dymheredd ystafell.

Myffins Marmaled

28 Tach

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Am ryw reswm dyw hi jyst ddim yn dderbyniol i fwyta cacen i frecwast. Er dwn i ddim pam chwaith, dyw darn o gacen ddim gwaeth i chi na phowlen o Frosties neu patisserie melys llawn menyn a siwgr – ac mae’r Ffrancwyr wedi’n dysgu ni bod hynny yn fwy na derbyniol.

Ond dwi’n benderfynol o newid hynny gyda’r myffins yma, sydd yn llawn ceirch a marmaled. Dwi ddim yn dweud y dyle chi eu bwyta bob dydd, Ond maen nhw’n berffaith ar gyfer brecwast arbennig ar benwythnos, neu hyd yn oed fel rhywbeth i’w gipio fel da chi’n rhedeg allan trwy’r drws heb hyd yn oed amser i wneud darn o dost.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

A pheidiwch â phoeni, does dim angen treulio oriau yn y gegin cyn y cewch chi’ch brathiad cyntaf, mae’r rhain mor syml a chyflym i’w gwneud fe fydden nhw’n barod i’w bwyta mewn llai na hanner awr.

Neu beth am gael y plant i’ch helpu? Dim ond pwyso a chymysgu sydd angen ei wneud, mae hyd yn oed fy mhlentyn dwy oed yn gallu helpu efo hynny.

Gan fod gen i jariau lu yn y tŷ, dwi’n hoffi defnyddio marmaled cartref yn fy rhai i, ond wrth gwrs fe wnaiff marmaled siop yn hefyd cyn belled eich bod yn prynu un da sydd ychydig yn chwerw a ddim yn rhy felys.

Bydd y rysáit yn gwneud 6 myffin mawr.

Cynhwysion

150g o flawd plaen

2 llwy de o bowdr codi

½ llwy de o soda pobi

Pinsied o halen

25g o geirch

25g o almonau mâl

50g o fenyn heb halen wedi toddi

1 wy

150g o farmaled (yn ogystal â  llwy fwrdd ychwanegol i roi sglein ar y topiau)

Sudd 1 oren

2 llwy fwrdd o iogwrt plaen

 

Dull
Cynheswch y popty i 180ºC / 160ºC ffan / marc nwy 4 a gosod cesys myffin yn eich tun.

Cymysgwch yr holl gynhwysion sych mewn powlen.

Yna mewn powlen neu jwg arall cymysgwch yr holl gynhwysion gwlyb.

Gwnewch bant ynghanol y cynhwysion sych a thywalltwch y cynhwysion gwlyb i mewn.

Plygwch yn gyflym ac yn ysgafn, hyd nes ei fod bron wedi’i gymysgu, ond gyda rhai lympiau o flawd yn dal i’w gweld. Os ydych yn ei or-gymysgu fe fydd eich myffins yn drwm.

Llenwch eich cesys myffin gyda’r gymysgedd ac ysgeintiwch ychydig o geirch ar ben pob un.

Coginiwch am 20 munud, hyd nes eu bod wedi codi ac yn euraidd.

Tra bod y myffins yn oeri ar rwyll fetel, cynheswch lond llwy fwrdd o’r marmaled mewn sosban gyda llwy fwrdd o ddŵr. Pan fydd wedi toddi yn llwyr, brwsiwch am ben y cacennau.

Bisgedi cyntaf

28 Tach


Mae amser wir wedi hedfan yn ddiweddar, ac mae’r mab nawr wedi dechrau bwyta. Fel rhywun sydd wrth eu bodd gyda bwyd a choginio, mae hyn yn gyfnod cyffroes iawn i mi, ond hefyd yn cynnig her newydd i mi – pobi a choginio gyda llai o halen a siwgr na’r arfer. Ond mae’n un dwi’n ei fwynhau hyd yn hyn, yn sicr mae’n helpu bod y bychan yn mwynhau ei fwyd cymaint â’i fam.

Stwnsh neu bethau meddal mae’n ei fwyta yn bennaf ar hyn o bryd, ond gyda dannedd ar y ffordd, mae o’n mwynhau cnoi ar bethau caled hefyd. Felly dyma’r cyfle cyntaf i bobi bisgedi ar ei gyfer, bisgedi sydd yn ddigon caled fel nad oes modd iddo dorri darn mawr i ffwrdd, ond yn meddalu yn araf wrth iddo gnoi a sugno arnyn nhw. A bisgedi sydd wrth gwrs heb unrhyw siwgr ynddyn nhw, ond yn hytrach wedi’i melysu gan ychydig o biwre afal.

Nawr dwi’n ymwybodol iawn bod amser yn brin os oes gennych fabi bach, felly mae’r rhain yn syml ac yn gyflym iawn i’w gwneud, yn enwedig os oes gennych chi lond rhewgell o biwre afal yn barod, fel y fi.

Er bod y rhain yn berffaith ar gyfer babis o 6 mis ymlaen, mae’n dal yn bwysig i gadw golwg ar eich plentyn wrth iddyn nhw eu bwyta, rhag ofn iddyn nhw dagu.

Cynhwysion

300g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr codi

1 wy

100g o biwre afal trwchus (Tua 2/3 afal) 

 

Dull

Dechreuwch drwy wneud y piwre afal. Peidiwch a phlicio’r afalau (mae yna lot o faeth yn y croen), ond torrwch y canol allan, a thorri’r afalau yn ddarnau. Dwi’n hoffi stemio fy afalau, ond gallech eu coginio mewn sospan hefyd. Fe ddylai gymeryd 15-20 munud hyd nes eu bod yn feddal. Yna defnyddiwch brosesydd bwyd i’w malu yn llyfn.
Gadewch i’r piwre oeri rhywfaint. 

Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim. Cymysgwch yr holl gynhwysion hyd nes bod popeth yn dod at ei gilydd i ffurfio toes llyfn. 

Torrwch belen o’r toes a’i rolio yn sosej rhyw 2 fodfedd o hyd, Gosodwch ar eich tun pobi a’i wasgu yn fflat. Mae angen i’r bisgedi fod yn ddigon mawr i fabi eu dal yn eu dwrn i fwydo eu hunain, ond ddim yn rhy fawr i’w roi yn eu ceg. Ailadroddwch gyda gweddill y bisgedi gan sicrhau bod digon o le rhwng pob un. 

Coginiwch am 25-30 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac yn galed. 

Gadewch i’r bisgedi oeri ar rwyll fetel. 
Fe fydd rhain yn cadw yn dda o’u rhoi mewn tun a chaead iddi. 

Tartenni afal

13 Hyd

Mae cyfres arall o’r Great British Bake Off wedi dod i ben ac fel y cyfresau eraill cyn hyn, dwi wedi mwynhau hon yn aruthrol, ac yn hapus iawn o weld Nadiya yn ennill. Pencampwr haeddiannol yn fy marn i, wnaeth gynyddu mewn hyder wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen gan greu cacennau trawiadol a blasus iawn yr olwg wythnos ar ôl wythnos.

Fel y dywedodd un person wrtha i ar twitter nos Fercher, ‘dyma dy world cup di ynte?’ – wel ia o bosib, ac o’r herwydd doeddwn i ddim yn mynd i fod yn hapus yn ei wylio adra ar fy mhen fy hun. O na, fe wnes i wylio’r rownd derfynol ar sgrin fawr mewn tafarn, gyda llond ystafell o gyd bobwyr a mwy na digon o gacennau a gwin.

A dweud y gwir dwi wedi bod yn cwrdd â grŵp o ffrindiau yn rheolaidd i wylio’r rhaglen, ac yn aml yn pobi rhywbeth i gyd fynd gyda themâu’r wythnos. Yn ystod wythnos toes y rhaglen, fe wnes i’r tartenni bach afal yma. Crwst pwff menynaidd, gydag afalau yn gorwedd ar bast almon melys. Tartenni bach trawiadol sydd mewn gwirionedd yn hawdd iawn i’w gwneud.

Fe wnes i fy nghrwst pwff fy hun, a wir i chi mae’n lot haws nag y buasech chi’n ei feddwl os ydych yn dilyn fy rysáit ar gyfer ‘rough puff’. Ond os yw amser yn wirioneddol yn brin yna does yna s dim byd yn bod gyda defnyddio paced da o does pwff, cyn belled mai un wedi’i wneud gyda menyn ydi o.  Ond rhowch gyfle arni unwaith o leiaf.



Cynhwysion
Ar gyfer y crwst

250g o fenyn oer

250g o flawd plaen

1 llwy de o halen

150ml o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad
80g o fenyn heb halen

80g o siwgr mân

1 wy

80g o almonau mâl

15g o flawd plaen

1 wy

1 llwy de o rym

2 afal

25g o fenyn wedi toddi

50g o siwgr mân

1 llwy fwrdd o jam bricyll wedi’i gynhesu efo llwy de o ddwr.


Dull

  • Torrwch y menyn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen.
  • Gyda’ch dwylo rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion bras. Rydych dal eisiau darnau gweddol fawr o fenyn ynddo.
  • Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn tylino’r toes, fe ddylai fod yn reit lympiog.
  • Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a siapiwch eich toes fel ei fod yn ffurfio petryal. Nawr roliwch allan o’ch blaenau i un cyfeiriad fel bod gennych un darn hir o does tua 30cm x 15cm.
  • Plygwch draen o’r toes i lawr ar ben ei hun, cyn plygu’r traean gwaelod i fyny am ben hwnna, fel petai chi’n plygu llythyr!
  • Nawr trowch y toes 90°, a’i rolio unwaith eto mewn un cyfeiriad nes ei fod tair gwaith mor hir eto. Ailadroddwch y plygu, cyn ei lapio mewn cling film a’i roi yn yr oergell am 30 munud.
  • Ar ôl iddo oeri yn ddigonol, roliwch a phlygwch ddwywaith eto. Fe fyddwch wedi rholio a phlygu pedair gwaith erbyn y diwedd. Rhowch yn ôl yn yr oergell am 30 munud arall.
  • Cynheswch y popty i 200°C / 180°C / Nwy 6 a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim.
  • I wneud y past almon chwisgiwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am ychydig funudau hyd nes eu bod yn ysgafn ac yn olau. Ychwanegwch yr wy a’i gymysgu’n dda, yna plygwch yr almonau, y blawd a’r rym i mewn i’r gymysgedd.
  •  Rholiwch eich toes nes ei fod yn drwch ceiniog punt. Yna gyda thorrwr siâp cylch tua 4 modfedd ar draws, torrwch 10 o gylchoedd allan.
  • Gosodwch ar dun pobi wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim, a phrociwch ganol pob un gyda fforc.
  • Rhowch yn ôl yn yr oergell am o leiaf 20 munud.
  • Yn y cyfamser pliciwch eich afalau, torrwch y canol allan a sleisiwch yn dafellau tenau.
    Tynnwch y cylchoedd toes o’r oergell a thaenwch lond llwy de o’r past almon yn y canol a gosodwch dafellau afal am ei ben mewn patrwm del.
  • Brwsiwch y menyn wedi toddi am eu pennau ac ysgeintiwch gyda siwgr mân. Coginiwch am 15 munud neu hyd nes bod y crwst yn euraidd a’r afalau yn dechrau lliwio.
    Gadewch i oeri ar rwyll fetel.
  •  Wrth aros iddyn nhw oeri cynheswch y jam a’r dŵr mewn sosban a brwsiwch am ben y tartenni i roi sglein deniadol iddynt.

Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

2 Hyd


Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond dyw o ddim yn gacen ar gyfer dathliad, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth llawer mwy trawiadol. Felly gyda’r gacen lemon yn ysbrydoliaeth, fe es ati i wneud cacen lemon a mafon, gyda’r dyw haen o gacen lemon a haen ar all yn y canol wedi’i wneud gyda’r mafon ffres. Rhwng pob haen wedyn roedd yna eisin menyn lemon, ceuled lemon a mwy o fafon ffres. Addurnais y cyfan gydag eisin menyn lemon wedi’i liwio yn felyn a phinc, er mwyn rhoi rhyw syniad o’r hyn oedd y tu fewn.

IMG_1334
Roedd yna glod mawr i’r gacen ymysg ei deulu, ac roedden nhw’n amlwg wedi’i fwynhau achos dim ond un darn gefais i cyn yr oedd y gacen wedi diflannu yn llwyr.
Yn sicr dyw hon ddim yn gacen ar gyfer pob dydd ond mae’n berffaith ar gyfer achlysur arbennig pan mae yna ddigon o bobl i’w bwydo.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Cynhwysion 

300g o fenyn heb halen

350g o siwgr mân

5 wy

350g o flawd plaen

3 llwy de o bowdr codi

Croen un lemon wedi’i gratio

100g o fafon

Ar gyfer yr eisin

375g o fenyn heb halen

700g o siwgr eisin

Sudd un lemon

Croen hanner lemon wedi’i gratio

Past lliw melyn a pinc

I orffen y gacen

Sudd un lemon

100g o Siwgr eisin

100g o fafon

Ceuled lemon

Dull

  • Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch dri thun crwn 20cm a leinio’r gwaelod gyda phapur gwrthsaim.
  • Rhowch y menyn mewn powlen a’i guro am funud gyda chwisg drydan nes ei fod yn llyfn, yna ychwanegwch y siwgr yn raddol a’i guro am 5 munud arall nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.
  • Nawr ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu’n drwyadl gyda’r chwisg drydan rhwng pob un. Os ydych yn poeni ei fod yn mynd i geulo ychwanegwch lwy fwrdd o flawd rhwng pob wy.
  • Hidlwch y blawd a’r powdr codi i mewn a’i gymysgu gyda llwy neu spatula.
  • Rhannwch y gymysgedd yn hafal rhwng tair powlen, gan ychwanegu’r croen lemon at ddau a’r mafon wedi’i stwnsio at y llall a chymysgwch yn ofalus.
  • Rhowch eich cymysgedd yn y tri thun a’u coginio am 25-30 munud, hyd nes bod y sbwng yn euraidd a bod sgiwer sy’n cael ei osod ynghanol y gacen yn dod allan yn lân. Gadewch i oeri yn y tuniau am rai munudau cyn eu trosglwyddo i rwyll fetel i oeri yn llwyr.
  • Yn y cyfamser gwnewch surop drwy gynhesu sudd un lemon gyda’r siwgr eisin.
  • Os nad yw eich cacennau yn wastad, torrwch y topiau i ffwrdd efo cyllell fara yna brwsiwch y ddwy gacen lemon gyda’r surop.
  • Er mwyn gwneud yr eisin, cymysgwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch sudd a chroen y lemon a’r siwgr eisin yn raddol. Cymysgwch yn dda am 4-5 munud.
  • Gosodwch un o’r cacennau lemon ar eich plât gweini, a thaenwch haen o eisin am ei ben yn ogystal â rhywfaint o geuled lemon a hanner y mafon (wedi’i stwnsio) sydd yn weddill. Gosodwch y gacen mafon am ei ben, a gwnewch yr un peth eto. Rhowch y drydedd gacen (yr un lemon) ar y top a gorchuddiwch y gacen gyfan gyda haen denau o’r eisin. Fe fydd yr haen yma yn dal y briwsion i gyd ac yn gweithio fel sylfaen i’r haen olaf o eisin, felly does dim rhaid iddo fod yn rhy daclus nac yn rhy drwchus.
  • Rhowch y gacen yn yr oergell am 30 munud fel bod yr eisin yn caledu. Ar ôl i’r haen gyntaf o eisin setio, rhannwch yr eisin sy’n weddill rhwng pedwar powlen, gadewch un yn wyn, lliwiwch un yn binc a’r ddau arall yn felyn, ond gydag un yn dywyllach na’r llall.
  • Gorchuddiwch dop y gacen gyda’r eisin gwyn, gan ei wneud mor llyfn â phosib gyda chyllell balet. Yna yn fras Rhowch haen o eisin pinc p gwmpas gwaelod y gacen, yn a’r melyn golau, gan orffen gyda’r melyn tywyll. Ewch dros y cyfan gyda chyllell balet i’w wneud yn llyfn, gan sicrhau bod y lliwiau yn llifo i mewn i’w gilydd, a’r melyn yn lledaenu i’r top hefyd.

Dyw hi ddim yn hawdd pobi gyda babi!

29 Gor

IMG_8733

Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi flogio, ond mae gen i esgus da – dwi di cael babi! Roeddwn i’n dal i weithio pan ddaeth Gruff bach, bron i fis yn gynnar, gan roi dipyn o sioc i fi a’r gŵr. Yn amlwg doedd o methu aros i ddod fewn i’r byd yma. Ers hynny mae bywyd wedi newid cryn dipyn, a’r amser a hyd yn oed yr egni i bobi wedi bod yn brin iawn.

Ond wedi dweud hynny, dyw Gruff ddim wedi fy nghadw i allan o’r gegin yn llwyr. Mae o’n gallu bod yn hogyn da iawn ar adegau, gan gysgu’n ddigon hir yng nghanol y dydd i fi gael mentro i’r gegin i wneud rhywbeth. Ac mae powlen gymysgu a chlorian gegin yn ddefnyddiol iawn os ydych eisiau pwyso babi bach!

IMG_8767

IMG_8768

A’r peth cyntaf wnes i oedd y cacennau bach riwbob a chwstard yma ar gyfer fy nghlwb pobi. Haf oedd y thema, a gyda llond bag o riwbob yn yr oergell gan fy rhieni yng nghyfraith, roedd yn rhaid i mi eu defnyddio. A’r peth amlwg i’w gyfuno gyda riwbob yw cwstard, felly mae’r cacennau yma wedi’i gwneud gyda sbwng fanila, gyda riwbob wedi’i stiwio yn y canol, ac eisin menyn wedi’i wneud gyda phowdr cwstard a’i liwio yn binc a melyn fel y fferins.

IMG_8850

Fel y gwelwch chi roedd y gacen yma ychydig yn fwy uchelgeisiol, ac yn dipyn o her o ystyried yr amser oedd ei angen i’w gwneud. Doedd y tywydd ddim yn help chwaith, roedd hi’n chwilboeth ar y pryd, a dyw gweithio gydag eisin a siocled byth yn hawdd mewn tywydd poeth. Ond roeddwn i’n awyddus i’w wneud gan fod ffrind, sydd yn yr ysbyty a’r hyn o bryd, wedi gofyn am gacen pen-blwydd arbennig i’w hogyn bach oedd yn flwydd oed.

Mae’r gacen wedi’i wneud o bedwar haen o sbwng siocled, ac fe wnes i’r rheiny fin nos rhyw wythnos ynghynt ac yna eu rhewi. Yna’r diwrnod cyn y parti, fe wnes i eu dadmer, a’u llenwi a’u gorchuddio gydag eisin menyn siocled, a gwneud yr anifeiliaid bach allan o eisin ffondant. Yn lwcus i fi, fe gafodd Gruff nap digon hir i mi gael gorffen y gwaith!

Cacen foron a courgette

11 Ebr

IMG_1158

Does dim dwywaith bod y Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers dyddiau nawr a dwi hyd yn oed wedi cyfnewid fy nhrainers am flip flops unwaith.

Ac wrth i’r tymhorau newid yna hefyd mae’r hyn dwi’n ei goginio, a’r awydd nawr i bobi cacennau sy’n gwneud y mwyaf o gynhaeaf hael y gwanwyn. Mae’n braf gweld yr holl ffrwythau a llysiau ffres yn y siopau ac mae’r gacen hon yn gwneud y mwyaf ohonyn nhw.

Dwi wedi gwneud cacen foron o’r blaen a chacen corbwmpen (courgette) o’r blaen, ond pam ddim cyfuno’r ddau. Maen nhw’n llysiau perffaith ar gyfer cacennau, maen nhw’n rhoi digon o felysrwydd a lleithder, i’r gacen, a da ni’n gallu perswadio ein hunain ei fod ychydig yn fwy iach na chacen arferol! Er bod yna wyau, does dim cynnyrch llaeth, felly er nad yw’n fegan, mae’n berffaith i’r rheiny ag alergedd i laeth.

IMG_1159

Fe fuasech chi’n gallu rhoi eisin caws meddal am ben y gacen hon, ond dwi’n meddwl bod eisin oren syml yn berffaith, gan ei fod yn gadael i flas y llysiau i ddisgleirio.

Cynhwysion

180g o siwgr mân
180g o siwgr brown
4 wy
300ml o olew rapeseed
200g o foron wedi’i gratio
150g o gorbwmpen (courgette) wedi’i gratio
120g o syltanas
croen 1 oren wedi’i gratio
300g o flawd plaen
1/2 llwy de o soda pobi
1/2 llwy de o bowdr codi
2 lwy de o sbeis cymysg
pinsied o halen

Ar gyfer yr eisin

150g o siwgr eisin
sudd un oren

Dull

Cynheswch y popty i 160C ac irwch dun bundt yn dda (dwi’n defnyddio olew pobi pwrpasol y gellir ei chwistrellu ymlaen er mwyn cyrraedd pob twll a chornel). )

Rhowch y siwgr a’r wyau mewn powlen a’u curo gyda chwisg drydan am 5 munud, nes eu bod yn olau ac yn ysgafn.

Gyda’r chwisg yn dal i guro, ychwanegwch yr olew yn araf fel ei fod yn cyfuno yn llwyr.

Nawr ychwanegwch y moron, corbwmpen, syltanas a chroen yr oren a’i gymysgu gyda spatula neu lwy.

Nawr ychwanegwch y blawd, soda pobi, powdr codi, sbeis cymysg a halen a’i blygu i mewn.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a phobwch am awr, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun cyn ei dynnu allan, yna gwnewch yr eisin drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd yr oren a’i dywallt am ben y gacen.